Medi  5 2014

 

 

Catherine Hunt

Clerc, Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

 

 

Annwyl Ms Hunt,

 

Parthed: Ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

Ysgrifennaf ar ran Grŵp Monitro CCUHP Cymru.  Mae’r Grŵp Monitro yn gynghrair cenedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd, wedi ei gydlynu a’i gadeirio gan raglen Cymru Achub y Plant. Mae’r grŵp yn monitro ac yn hyrwyddo gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yng Nghymru.

 

Mae’n bleser gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru gael y cyfle i roi mewnbwn i’r ymgynghoriad ar egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).  Rydym yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfwriaethu er mwyn sicrhau bod anghenion cenedlaethau presennol yn cael eu bodloni mewn ffordd gynaliadwy, heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

 

Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru o’r farn nad yw Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn canolbwyntio’n ddigonol ar orfodi hawliau dynol, sydd, yn ein barn ni, yn rhagamod ar gyfer datblygu cynaliadwy a Chymru ffyniannus. Heb gydnabod a gweithredu i wireddu hawliau pobl, nid yw datblygu cynaliadwy yn bosibl.

Rydym o’r farn bod yn rhaid cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru trwy lens hawliau dynol a bod Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn gyfle allweddol i fframwaith hawliau dynol gael ei ymgorffori yn y gyfraith.  

 

Er enghraifft, byddai’r Grŵp wedi dymuno gweld cyswllt llawer cliriach rhwng cynnwys y Bil a gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Er bod yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) yn datgan y bydd y Bil yn cael effaith gadarnhaol ar hawliau plant yng Nghymru, rydym yn bryderus nad yw’r Bil ei hun yn cyfeirio’n uniongyrchol at CCUHP. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cynnwys darpariaeth bod ‘yn rhaid i berson sy’n cyflawni swyddogaethau yn unol â’r Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn’…’roi sylw dyledus i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’.  Byddai Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael ei gryfhau’n sylweddol pe byddai’r un ddarpariaeth yn cael ei chynnwys yn amlwg yn y Bil.  Byddai darpariaeth o’r fath hefyd yn sicrhau bod dyletswydd y Gweinidog i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei dangos yn glir. Mae hepgor darpariaeth o’r fath yn colli cyfle i hyrwyddo hawliau’r plentyn a CCUHP yng Nghymru mewn ffordd fydd yn effeithio ar brofiadau byw plant yng Nghymru.

 

Bwlch allweddol arall yn ein barn ni yw peidio cynnwys hawliau o fewn cyd-destun trosfwaol llesiant.  Dylai diffiniad o lesiant fod yn amlwg yn y Bil, a dylai hyn gynnwys sicrhau hawliau mewn ffordd debyg i adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Yn ogystal, rydym o’r farn bod y CRIA yn gorwneud y cyswllt rhwng nodau llesiant a hawliau plant.  Er nad ydym yn anghytuno y gallai’r Bil helpu i wireddu hawliau plant yng Nghymru (trwy fynd i’r afael â thlodi plant er enghraifft), dymuna’r Grŵp weld tystiolaeth llawer cliriach o’r ffordd y bydd yn gwneud hynny.  Nid yw’r nodau llesiant, fel y maent wedi cael eu geirio ar hyn o bryd, yn gwneud unrhyw gyfeiriad uniongyrchol at hawliau.  Dylid newid geiriad y nod cydraddoldeb i “gymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu hawliau waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau”, a chyfeirio’n glir at gytundebau perthnasol fel CCUHP a Siarter Hawliau Dynol Ewrop (ECHR). Byddai hyn yn sicrhau bod amcanion a chynlluniau llesiant yn wirioneddol seiliedig ar hawliau, a byddai’n rhaid i gyrff cyhoeddus roi tystiolaeth glir o’r cynnydd y maent wedi ei wneud yn sicrhau eu bod yn gwireddu hawliau dynol trwy bolisi a chyflenwi.

 

Rydym yn falch bod y CRIA yn cyfeirio at gyfranogiad plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, er ei fod yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â rhai plant a phobl ifanc cyn cyflwyno’r Bil, nid yw’n rhoi unrhyw wybodaeth ynghylch sut mae eu safbwyntiau wedi helpu i lunio cynnwys y Bil. Mae Erthygl 12 o CCUHP yn cynnwys yr egwyddor o barch tuag at safbwyntiau plant yn ogystal â’r hawl i gael eu clywed, felly byddai’n ddefnyddiol i’r CRIA gynnwys mwy o wybodaeth am unrhyw effaith y mae safbwyntiau plant a phobl ifanc wedi ei gael ar gynnwys y Bil.

 

I gloi, dymuna’r Grŵp ailbwysleisio’r angen i roi’r Bil yn glir mewn fframwaith hawliau dynol trosfwaol er mwyn sicrhau bod polisïau cyrff cyhoeddus yn cael eu llunio mewn ffordd sy’n cyfrannu’n systematig i wireddu hawliau pobl yng Nghymru.

 

Yn gywir

 

 

 

Mary Powell-Chandler

Cadeirydd, Grŵp Monitro CCUHP Cymru

 

 

 

Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn gynghrair cenedlaethol o sefydliadau anllywodraethol ac academaidd sydd â’r dasg o fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru.

 

Aelodaeth: Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig Prifysgol Aberystwyth, Barnardo’s Cymru, Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd, Plant yng Nghymru, y Ddraig Ffynci, NSPCC Cymru, Chwarae Cymru, Achub y Plant Cymru (Cadeirydd a Chydlynydd), Arsyllfa Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc Cymru, YMCA Cymru.

 

Mae’r arsyllwyr yn cynnwys: Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, UNICEF UK.